Pa bryd y ffŷ cymylau'r nos

1,2,3,4,(5,6);  1,2,7.
(Hiraeth am yr etifeddiaeth nefol)
Pa bryd y ffŷ cymylau'r nos,
Sy'n cuddio rhinwedd
    gwaed y groes?
  Pa bryd caf wel'd yn oleu glir,
Yr etifeddiaeth ddaeth i'm rhan,
Wrth goelbren nef, mewn goreu fan,
  O'r hyfryd, sanctaidd, nefol dir?

Mae meddwl am yr oriau clîr
Caf rodio'r
    paradwysaidd dîr,
  Ac yfed pleser sy'n parhau,
Mewn gwlad heb lewyrch haul na lloer,
Na therfysg tir, na thwrf y môr,
  Yn peri i mi lawenhau.

Datguddia'n gyflawn i mi ar frys,
Ogoniant maith dy nefol lys,
  Didranc bleserau'r sanctaidd dîr,
O dangos im' mai ti yw'm rhan,
A thyn fi o'r dyfnder mawr i'r làn,
  I'th gyflawn weled cyn bo hir.

Ffolineb mawr oedd aros cy'd,
Mewn gwledydd pell, a rhoddi 'mryd
  Ar gihan gweigion dilesâd;
Ond o'u hardaloedd 'r wyf yn troi,
A thua'r nefoedd gwna im' ffoi,
  At haeddiant llawn y dwyfol waed.

Tydi yw'r ffynnon fawr ddidrai,
Sy'n rhoddi ei dyfroedd i barâu,
  Rhyw ffrydiau o anfeidrol ryw:
Gwlad lawn o gariad yw dy hêdd,
A nêf y nêf yw
    gwel'd dy wêdd,
  Y nawdd a'r cysur
      mwya'n fyw.

'Rwi'n rhoi ffarwel bob peth ynghyd,
A ganfu natur yn y byd,
  Gwagedd o wagedd ydynt hwy:
'Rwi'n gwel'd ma etifeddiaeth yw,
Trag'wyddol gariad pur fy Nuw,
  Fy nghysur ar y ddaear mwy.

O hyfryd, ddedwydd, dawel le,
Gwyn fyd y rhai sydd ynddo fe, -
  Y ddinas ddystaw nefol glir:
Y man na fu,
    y man nad oes,
Na phoen, na gofid, gwae, na loes,
  Ond heddwch llawn a chariad pur.
Yr etifeddiaeth :: Fy etifeddiaeth

Grawn-Sypiau Canaan 1805

Tôn [888D]: Kirby (Heinrich Scheidemann c.1595-1663)

gwelir:
  Datguddia'n gyflawn i'm ar frys
  Wel f'enaid cerdd y fordd yn hŷ

(Longing for the heavenly inheritance)
When will the clouds of night flee,
Which are hiding the virtue
    of the blood of the cross?
  When will I get to see in clear light,
The inheritance which became my portion,
By the beacon of heaven, in a better spot,
  From the delightful, holy, heavenly land?

There is thought about the clear hours
When I will get to walk
    the paradisiacal land,
  And drink pleasure which is enduring,
In a country without the radiance
    of sun or moon,
Nor tumult of land, nor din of the sea,
  Causing me to be joyful.

Disclose quickly to me hurriedly,
The vast glory of thy heavenly court,
  Undying pleasures of the holy land
O show me that thou art my portion,
And draw me up from the great depth,
  To see thee completely before long.
  
Great folly it was to wait so long,
In distant countries, and give my attention
  To empty husks of unprofitability;
But from their regions I am turning,
And towards heaven make me flee,
  To the full merit of the divine blood.

Thou art the great, unebbing fount,
Which gives its waters to endure,
  Some streams of an immeasurable kind:
A country full of love is thy peace,
And the heaven of heaven is
    to see thy face,
  The refuge and the greatest
      comfort living.

I am bidding farewell
    to everything altogether,
Which found nature in the world,
  Emptiness of emptiness are they:
I am seeing that inheritance is,
The eternal, pure love of my God,
  My comfort on the earth evermore.

O delightful, happy, quiet place,
The bliss of those who are in him, -
  The silent, heavenly, clear city:
The spot where was not,
    the spot where is not,
Either pain, or grief, woe, or anguish,
  But full peace and pure love.
The inheritance :: My inheritance

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~